Witnessing Wales

ORIEL 1
WITNESSING WALES – MOHAMED HASSAN
18 TACHWEDD – 3 CHWEFROR

 

Mae Witnessing Wales yn gorff tymor hir o waith gan yr artist ffotograffig Mohamed Hassan. Gan ddefnyddio’r dull rhaglen ddogfen, mae Mohamed yn cymysgu portreadau trawiadol â delweddau o’r tir ac eiconau diwylliannol, er mwyn cwestiynu syniadau o hunaniaeth, cenedligrwydd a pherthyn.

 

Gan weithio mewn du a gwyn, a lliw, mae Mohamed yn canolbwyntio ar y naws a’r golau ym mhob golygfa, gan greu delweddau cynnil a llwydaidd sy’n eich atynnu ac yn ysgogi emosiynau. Trwy bortreadu pobl yn eu tirweddau a’u hamgylchedd naturiol, mae Mohamed yn archwilio’r cyffelybiaethau a rennir rhwng pobl a’r tir.

 

Fel newydd-ddyfodiad cymharol, cafodd Mohamed ei swyno gan iaith a diwylliant artistig cyfoethog Cymru, sydd wedi’i thrwytho mewn cân a llên gwerin hynafol. Pan ddaeth yma’n gyntaf, dywedodd ei fod yn teimlo fel pe bai mewn breuddwyd ac mae wedi parhau i ddod o hyd i ysbrydoliaeth yn y tirweddau clogyrnog sy’n ei amgylchynu.

Gan fod yr oes hon yn un o’r cyfnodau mwyaf ansefydlog yn ein hanes diweddar, mae Witnessing Wales yn darparu ciplun o bobl sy’n byw yng Ngorllewin Cymru fodern, gan archwilio’r cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru drwy ddangos pobl o wahanol gefndiroedd sydd ag ymdeimlad diysgog o ddinasyddiaeth Gymreig.

 

Mae’r delweddau hyn yn ystyried beth sy’n ein rhannu a beth sy’n ein clymu wrth ein gilydd, beth yw Cymreictod heddiw, ac yn y cyfnod o newid cyflym hwn, beth fydd bod yn Gymry yn ei olygu yn y dyfodol.

 

Mae Mohamed yn artist Cymreig-Eifftaidd sydd wedi byw a gweithio yn Sir Benfro ers 2007. Mae byw ac astudio yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w daith fel artist, gan ffurfio’i gysylltiad dwfn â phobl, cymunedau a thir Cymru.

 

Mae delweddau o Witnessing Wales wedi cael eu harddangos ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol ac maent wedi ymddangos mewn nifer o erthyglau cylchgrawn, erthyglau nodwedd ar-lein a chyhoeddiadau celf.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel Ddydd Sadwrn 18 Tachwedd, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 3 Chwefror 2024.

CATALOG YR ARDDANGOSFA

Galwch heibio i’n siop grefftau i brynu copi papur dwyieithog o’r catalog (£5)