Sgwrs y Artist: Mohamed Hassan

ORIEL 1
SGWRS Y ARTIST: MOHAMED HASSAN
20 IONAWR, 11YB – 12.30YP

 

Ymunwch â’r ffotograffydd dogfennol Mohamed Hassan ddydd Sadwrn 20 Ionawr am sgwrs ynglŷn â’i ymarfer. Yng nghanol ei arddangosfa bresennol Witnessing Wales, bydd Mohamed yn archwilio’i ddull o greu portreadau a thirluniau, ynghyd â syniadau am hunaniaeth, cenedligrwydd, a pherthyn.

Mae Mohamed yn artist Cymreig-Eifftaidd sydd wedi byw a gweithio yn Sir Benfro ers 2007. Mae byw ac astudio yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w daith fel artist, gan ffurfio’i gysylltiad dwfn â phobl, cymunedau a thir Cymru.

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma, oneu cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Gallwch ymweld ag arddangosfa Mohamed tan 3 mis Chwefror. Cewch fwy o wybodaeth yma.