Sgriniad Ffilm: The Birds

ORIEL 1
SGRINIAD FFILM: THE BIRDS
16 CHWEFROR, 4YB

 

Ar ddydd Sul 16 Chwefror bydd Llantarnam Grange ar agor yn hwyr ar gyfer sgriniad untro o ffilm glasurol Hitchcock The Birds yn ein prif oriel.

 

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda sgwrs ragarweiniol gan yr ysgrifennwr arswyd a ffantasi tywyll arobryn Tim Lebbon.

 

Rhyddhawyd The Birds am y tro cyntaf yn 1963, a chredir iddi gael ei hysbrydoli gan nifer o storïau y gellir eu holrhain nôl i The Terror gan yr ysgrifennwr arswyd Cymreig Arthur Machen.

 

Mae darluniau o’r argraffiad newydd o The Terror, gan Jon Langford yn cael eu harddangos ar hyn o bryd yn Oriel 2. Y sgriniad ffilm hwn fydd y cyfle olaf i weld ei waith a phrynu copi o’r llyfr.

 

Ysgrifennodd Tim Lebbon y cyflwyniad i’r argraffiad newydd hwn, a gyhoeddir gan y cyhoeddwyr annibynnol o Gasnewydd Three Imposters. I gyflwyno’r sgriniad, bydd Tim yn ymhelaethu ar sut gall syniadau ymgodi ar yr un pryd a newid gydag amser, ynghyd â myfyrio ar sut wnaeth The Terror ysbrydoli ei nofel The Nature of Balance.

Amser rhedeg y ffilm: 119 munud

 

TOCYNNAU: £5

Prynwch nawr drwy Eventbrite.

 

BWYD A DIOD

Bydd Caffi Llantarnam Grange ar agor o 3 – 5pm gyda detholiad o gacennau, diodydd poeth ac oer, a phopgorn.