Mae Abi Trotman, a elwir hefyd yn Tobacco & Regrets, yn artist, modelwr i raddfa, a gwneuthurwr celfi theatr sy’n byw yn Y Barri, De Cymru. Mae Abi yn defnyddio miniaturau fel ffordd o ddathlu bywyd. Mae ei gwaith yn anghonfensiynol, yn aml yn heriol, ac yn ddistaw danseiliol. Byddwch yn dod ar draws negeseuon cudd, naratifau cywrain a storïau dyrys wedi’u gweu drwy’r golygfeydd a’r darnau.
Mae gwaith Abi yn archwilio lleoodd personol a lleoedd gwag: y corneli preifat yn ein hamgylcheddau sy’n cyfleu pwy ydyn ni yn y bôn. Beth yw ein cyfrinachau mwyaf brwnt a ffiaidd. Beth sy’n ein gwneud ni mor ddynol. Mor ddiffygiol. Mor gyfareddol. Mae Abi yn ymddiddori mewn pobl sy’n byw eu bywydau gyda naws o berffeithrwydd digynnwrf, dilanastr, dideimlad. Mae eisiau gweld beth sy’n digwydd go iawn yn eu hymennydd, a darganfod y pethau maen nhw’n rhy ofnus i’w cyfaddef.
Mae Abi nid yn unig yn creu golygfeydd a dioramau celfyddyd gain miniatur, ond mae hefyd yn dathlu hunaniaethau unigryw pobl, eu hobïau, hoff ffilmiau, llyfrau neu weithgareddau hamdden, drwy eu cyflwyno ar ffurf delweddau miniatur oddi uchod. Mae Abi yn derbyn comisiynau.