Sgwrs yr Artist: Adéọlá Dewis

SGWRS YR ARTIST: ADÉỌLÁ DEWIS
22 GORFFENNAF 2023
11YB

 

Ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf, 11am bydd yr artist Adéọlá Dewis yn siarad am ei hymarfer a’i chelfwaith Dancing Outside Opens the Road, sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yn ein Horiel Bwrdd Posteri.

 

Creodd Adéọlá y gwaith hwn ar y cyd â’r ffotograffydd Catriona Abuneke a gyda menywod o’n cymuned leol.

 

Cafodd y darn hwn ei ysbrydoli gan hanes ffermio Cwmbrân a’i chysylltiadau â’r diwydiant tun, ac mae’n dangos y tebygrwydd rhwng y rhain ac elfennau o’r duwdod Ogun, duw haearn, metel a gwaith metel yr Iorwba yng Ngorllewin Affrica.

 

“Teimlais fod y cyfosodiad hwn wedi helpu i gysylltu fy estheteg benodol ag uniondeb y dref Gymreig hardd hon. Mae’r gwaith hwn yn dyst i fy angerdd dros anrhydeddu menywod a thros greu’r cyfle i’w dathlu trwy drawsnewid.”

 

I gael gwybod mwy yma.

 

Cynhelir y sgwrs y tu allan i Lantarnam Grange, o flaen y Bwrdd Posteri.

 

Os na fydd hyn yn bosibl, oherwydd y tywydd, byddwn yn symud i mewn i’n hadeilad. Os oes gennych anghenion mynediad corfforol, h.y. byddech yn cael trafferth i fynd i fyny’r grisiau, dywedwch wrthym fel y gallwn roi ystyriaeth i hyn.

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.

 

Mae’r tocynnau am ddim, ond os allwch chi wneud cyfraniad ariannol yna bydd hyn yn ein helpu i barhau i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau am ddim.

 

Os na allwch fwcio drwy Eventbrite, cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] a gallwn eich helpu i fwcio lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.