Gweithgareddau Creadigol Dyfodol Iach

GWEITHGAREDDAU CREADIGOL DYFODOL LACH
27 IONAWR– 24 CHWEFROR

 

Cymerwch ran yn un neu fwy o’n sesiynau creadigol a fydd yn gweithio ar flociau adeiladu iechyd, gan archwilio beth sydd o’r pwys mwyaf i bobl Gwent, o sut a ble rydych chi’n byw, i’r pethau rydych yn dyheu amdanynt yn y dyfodol.

 

Rhwng 27 Ionawr – 24 Chwefror, bydd y sesiynau hyn yn rhedeg bob prynhawn dydd Sadwrn, 1-3pm yn ein Hystafell Ddysgu. Cynhelir dwy sesiwn galw heibio hefyd ddydd Mercher 31 Ionawr a dydd Mercher 21 Chwefror yn ein horielau i lawr y grisiau.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

These sessions are funded by Gwent Public Service Board and Building a Fairer Gwent.

DYDD SADWRN 1-3YP
YSTAFELL DDYSGU

 

Dydd Sadwrn 27 Ionawr – Printio Bloc a Llythrennau

Gwnewch a phrintiwch eiriau yn y ffordd hen ffasiwn, gyda blociau printio a hen wasg argraffu! Gweithdy ymarferol hwyliog. Cyfle i incio’ch dwylo gyda’r artist Francesca Kay.

 

Dydd Sadwrn 3 Chwefror – Adar Origami

Dewch i greu adar origami hyfryd a phrintio coeden y gallant eistedd arni. Sesiwn grefft syml a phleserus gyda’r artist Francesca Kay.

 

Dydd Sadwrn 10 Chwefror – Collage Tirlun

Rhwygwch, haenwch a gludwch i greu tirluniau o flociau lliw, cylchgronau, a phapurau newydd gyda’r artist Sara Smith.

 

Dydd Sadwrn 17 Chwefror – Adar Origami

Dewch i greu adar origami hyfryd a phrintio coeden y gallant eistedd arni. Sesiwn grefft syml a phleserus gyda’r artist Francesca Kay.

 

Dydd Sadwrn 24 Chwefror – Siapiau Mynegiannol

Crëwch siapiau mynegiannol hardd yn defnyddio inc a dyfrlliwiau gyda’r artist Sara Smith.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

SESIYNAU GALW HEIBIO
ORIELAU I LAWR Y GRISIAU

 

Printio Bloc a Llythrennau

 

Gwnewch a phrintiwch eiriau yn y ffordd hen ffasiwn, gyda blociau printio a hen wasg argraffu! Gweithdy ymarferol hwyliog. Cyfle i incio’ch dwylo gyda’r artist Francesca Kay.

 

Dydd Mercher 31 Ionawr, 10am-12pm
Dydd Mercher 21 Chwefror, 10am-12pm

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.